GWERSYLLA 

Wedi'i leoli ger traeth hyfryd Mwnt, ar arfordir gorllewin Cymru, mae Parc Carafannau Blaenwaun yn wersyll teuluol, sy'n cynnig gwasanaeth proffesiynol ond personol mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar. 

Fry uwchben Bae Ceredigion, mae Blaenwaun yn elwa o olygfeydd arfordirol ysblennydd. Mae ein parc teithiol eang wedi'i osod allan yn dda a'r lleoliad perffaith ar gyfer darganfod y rhan yma o Orllewin Cymru. Heddychlon, gyda golygfeydd godidog o'r môr, mae'n ddelfrydol i unrhyw un sydd eisiau dianc i ffwrdd o'r cyfan'. Ar ddiwrnod clir, gellir gweld Penrhyn Llŷn wrth edrych tua'r Gogledd ynghyd ag Ynys Enlli. Mae hefyd modd gweld mynyddoedd Eryri ar draws y bae. Mae gwylio’r haul yn machlud yma yn wefreiddiol.

Mae pethau i'w gwneud ar ôl machlud hefyd. Caniateir barbeciws a thanau gwersylla ar yr un amod nad ydynt yn achosi annifyrrwch i eraill nac yn achosi niwed i'r glaswellt. Eisteddwch yn ôl, edrychwch i fyny ar noson glir, dywyll pan all y sêr fod yr un mor ddeniadol â'r traethau yn ystod diwrnod heulog. Mae Gorllewin Cymru yn le gwych i brofi'r rhyfeddodau naturiol dan awyr dywyll, ac mae seryddwyr wedi nodi'n fod yma leoedd gyda’r gorau yn y byd. Mae Blaenwaun wedi'i leoli rhwng dau safle Darganfod Awyr Dywyll, sef traeth Poppit a thraeth Penbryn, a gydnabyddir am fod y safleoedd gorau yn y DU i wylio awyr y nos heb ormod o ymyrraeth gan lygredd golau. 

Amser tawel ar y parc yw 10 y nos a 8 y bore a gyda'r holl awyr iach hwnnw, mae oedolion a phlant fel arfer yn barod am noson dda o gwsg! 

Heddwch, tawelwch ac ymlacio yw’r nod i'n gwesteion eu mwynhau.


CYFLEUSTERAU AR Y SAFLE

  • Mae safleoedd 10 amp trydan ar gael ar gyfer carafanau, carafanau modur a phebyll. Gosodir mannau dŵr o amgylch y safle, gyda gwastraff cemegol a man gollwng ar gyfer cartrefi modur ar gael.

  • Mae bloc toiledau a chawodydd modern, ar gyfer gwersyllwyr yn unig, ac ystafell gawod anabl/teulu wedi'i chyfarparu'n llawn gyda chyfleusterau newid babanod. Mae cawodydd a'r holl ddŵr poeth ar y safle am ddim. Mae sychwyr gwallt ar gael am dâl bychan. 

  • Mae cyfleusterau golchi dillad ar gael gyda dau beiriant golchi masnachol, dau sychwr dillad, bwrdd smwddio a haearn. Mae gennym hefyd cegin i wersyllwyr dan do gyda chyfleusterau golchi llestri, microdon, tegell, tostiwr, hob ac oergell maint llawn. Gellir rhewi pecyn iâ yn y siop.

  • Mae siop fechan ar y safle sydd ar agor ddwywaith y dydd, bore a nos, yn gwerthu nwyddau sylfaenol 

  • Ardal ailgylchu – rydym yn annog gwestai i ailgylchu er lles yr amgylchedd

  • Mae WiFi ar gael ym mhob rhan o'r parc y gallwch ei brynu.

  • Tap a phibellau awyr agored ar gyfer golchi siwtiau gwlyb a byrddau syrffio

  • Safleoedd tymhorol ar gael


PLANT AC ANIFEILIAID ANWES

Mae plant wrth eu bodd ym  Mlaenwaun. Mae man chwarae diogel mawr yng nghanol y parc, sy'n ei gwneud yn hawdd i chi wylio dros eich plant. Mae digon o le ar gyfer gemau pêl, hedfan barcud neu reidio beic . Fel arall, gallant ddweud 'helo' wrth ein asyn, geifr a’r  moch pot belly. Mae croeso i anifeiliaid anwes, ond sicrhewch eich bod yn glanhau ar ôl eich ci gan ddefnyddio'r biniau cŵn a ddarperir. Rhaid eu cadw ar denun bob amser a'u hymarfer oddi ar y cae. 


Fferm Blaenwaun, Mwnt, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1QF. 01239 613456
©2024 - Termau ac Amodau Hysbysiad Preifatrwydd

English Website