DARGANFOD

Yma ym Mlaenwaun, gallwn gynnig amgylchedd braf a hamddenol, cyfle i brofi ffordd o fyw sy’n gwbl wahanol i brysurdeb a straen bywyd bob dydd yn y dinasoedd a’r trefi. Ymlaciwch - os dyna eich dewis - ond mae digonedd o gyfleoedd ichi greu atgofion a fydd yn para am oes. Ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael mae cerdded y llwybrau arfordirol ysblennydd, hwylio, syrffio, pysgota, gwylio adar, merlota, golff a llwybrau beicio â golygfeydd prydferth. Mae croeso cynnes iawn yn eich aros.

 


static1.squarespace-1.jpg

Llwybr yr Arfordir
Gallwch gerdded Llwybr Arfordir Ceredigion a dilyn trywydd 60 milltir/96 km rhwng aberoedd afon Teifi ac afon Dyfi sy’n cysylltu trefi a phentrefi arfordirol.

Ewch i’r Wefan


static1.squarespace-4.jpg

Tref Aberteifi
Yn Aberteifi mae amrywiaeth o siopau annibynnol, marchnadoedd yn ogystal â siop losin draddodiadol, cwmni crefftau cydweithredol, orielau celf a’n Gŵyl fwyd ein hunain.

Ewch i’r Wefan


IMG_0627.JPG

Chwaraeon
Gallwch fwynhau’r awyr agored yma drwy feicio, hwylio, pysgota, neu chwarae golff yn Aberteifi (gostyngiad 10%), Trefdraeth neu Gwmrhydyneuadd.

Ewch i’r Wefan

static1.squarespace-2.jpg

Atyniadau Hanesyddol
Yn yr ardal o amgylch y safle mae cyfoeth o atyniadau hanesyddol i ymwelwyr. Castell Aberteifi, Castell Cilgerran ac abaty canoloesol Llandudoch.

Ewch i’r Wefan —


static1.squarespace-5.jpg

Gweithgareddau i Blant
Cadwch y rhai bach yn hapus, o nofio, chwarae dan do, ein sinema leol yn Theatr Mwldan i Gastell Henllys!



Ewch i’r Wefan


static1.squarespace-7.jpg

Gweithgareddau Awyr Agored
Syrffio, bordhwylio, tirhwylio, syrffio barcud, caiacio - mae ein harfordir yn cynnig yr amodau perffaith ar gyfer arbenigwyr a dechreuwyr fel ei gilydd.

Ewch i’r Wefan

static1.squarespace-3.jpg

Bywyd Gwyllt
Mae Bae Ceredigion yn ardal wych ar gyfer bywyd gwyllt y môr, ac os byddwch yn ffodus cewch arddangosfa gan un o’r heidiau o ddolffiniaid trwynbwl!

Ewch i’r Wefan


static1.squarespace-6.jpg

Yn y Cyffiniau
O fewn cyrraedd drwy daith fer yn y car mae Sŵ Anna Ryder Richardson, Parc Dinosoriaid, Folly Farm a’r enwog Oakwood Park.

Ewch i’r Wefan


static1.squarespace-8.jpg

Traethau
Yn ôl y Guardian, y Daily Mail a Google, mae Mwnt ymhlith y deg traeth gorau yn y byd, ac mae ar garreg ein drws!


Ewch i’r Wefan


Mae Mwnt yn cael ei warchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae wedi ennill Gwobr Werdd - sef Baner Las traethau gwledig.
— Daily Mail

Fferm Blaenwaun, Mwnt, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1QF. 01239 613456
©2024 - Termau ac Amodau Hysbysiad Preifatrwydd

English Website