AMDANOM NI

Yn edrych dros Fae Ceredigion - cartref y dolffin - mae Maes Carafanau Blaenwaun. Busnes teuluol, cyfeillgar ar safle heddychlon 4 milltir i’r gogledd o Aberteifi yw Blaenwaun. Encil tawel gyda golygfeydd eang o Fae Ceredigion a’r ardal wledig o’i amgylch, mae’r maes yn edrych dros draeth godidog Mwnt, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a gellir cyrraedd y traeth o’r safle ar hyd llwybr ceffylau.

Mae’r maes carafanau arfordirol hwn yn lleoliad perffaith i’r teulu cyfan grwydro’r rhan fendigedig hon o Gymru. Felly beth am ymweld â ni i fwynhau’r traethau prydferth, y golygfeydd gwych o’r arfordir a’r amrywiaeth o fywyd gwyllt sy’n rhan gynhenid o Orllewin Cymru. Mae croeso cynnes yn eich aros ym Mharc Carafanau Blaenwaun.


Bwyd a Siop
Mae gennym siop â dewis helaeth o gynnyrch ar y safle, sy’n gwerthu bara ffres, llaeth, wyau maes a’n cig eidion organig cartref. Rydym hefyd yn gwerthu ein rhoddion arbennig ein hunain. Mae modd prynu neu gyfenwid Nwy Camping a Nwy Calor hefyd. 

Cyfleusterau
Mae ein maes carafanau teithiol a gwersylla helaeth mewn lleoliad perffaith i grwydro Ceredigion. Mae cyflenwad trydan ar gael. Yn yr ystafell golchi llestri a golchi dillad mae microdon, tegell, oergell a thostiwr ar gael. Mae gennym floc toiledau 4* sy’n cynnwys ystafell gawod i’r anabl a chyfleuster newid babanod.


Fferm
Gan ein bod yn fferm cig eidion organig ac âr, mae anifeiliaid yn rhan o’n bywyd bob dydd. Mae gennym foch boliog sy’n aros i gael eu bwydo, Jermima yr afr, a Pippi y ferlen yn pori’n dawel, ac mae’r hwyaid yn crwydro’n rhydd.

Pethau i’w gwneud ar y safle
Ar safle heddychlon gyda golygfeydd godidog o’r môr, welwch chi byth ddau fachlud yr un fath. Mae Pysgota Bras ar gael ar y safle, a chysylltiadau uniongyrchol i Lwybrau Cerdded yr Arfordir. Mae digonedd o le i chwarae gemau pêl, hedfan barcud neu reidio beic. Gallwch fwynhau eich barbeciw neu dân gwersyll eich hun. Mae croeso mawr i gŵn.


Mae’r ardal brydferth yn gwneud y Parc carafanau hwn yn lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau bythgofiadwy i’r teulu.
— Duncan Gravestock

Fferm Blaenwaun, Mwnt, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1QF. 01239 613456
©2024 - Termau ac Amodau Hysbysiad Preifatrwydd

English Website